MINDFUL MOMENT - MAY
Finding a mindful moment in this busy climate is hard.
Even if you’re like me, trying your best to stay away from using the word ‘busy’ it does seem to describe life perfectly, sometimes!
I moved to North Wales around 8 years ago and decided to move to a very rural village called Nantlle just before the first lockdown. Nantlle is in the Snowdonia National Park and the view of the mountains and lake from the house was one of the main selling points.
I’m an actor and Yoga teacher and my work can be based all over the place, so I travel a lot! I wanted somewhere that would encourage me to slow down and live a more mindful lifestyle when I was home and over the past two years, living in Nantlle has definitely offered me that!
Living in the middle of the country will undoubtedly help you to live a more intentional life. It will help you to embrace nature and all it has to offer through the seasons. However, if there’s one thing that I’ve learnt over the past two years, it’s that no matter where you live or what you do, living more mindfully begins with our mindset and our ability to control what we call in Yoga ‘the monkey mind’.
The ‘monkey mind’ describes our busy, restless, uncontrollable and indecisive mind that tends to run the show. Gaining some control over our ‘monkey mind’ will help to bring both your body and mind back into the present moment. It allows you to focus on the now where you’re not anxious about the past or worrying about the future - this, for me personally, is the ultimate mindful moment.
The trouble is that controlling our monkey mind takes work and practice and a lot of discipline. Three things that we as human beings find difficult. However, the rewards are endless and this is what we have to remind ourselves every time our ‘monkey mind’ tries to intervene and tell us that we’re too tired, too wired, too hungry or of course, the classic, too busy to practice something mindful.
We also have to remember that if we’re living busy lifestyles, we have to prioritise these mindful moments even more. The busier our lives are, the less time we have to be sick, to feel anxious, stressed, uninspired or unenergised.
Affirmations to remember around this mindful moment could be:
SURRENDERING -
Releasing the need to control and allowing things to flow to you when they’re meant to
Releasing the need to control and allowing things to flow to you when they’re meant to
SETTING BOUNDARIES -
Giving yourself what you need rather than putting others first
FINDING BALANCE -
Staying out of drama and operating from a space of love
SLOWING DOWN -
Giving yourself the permission to be present, no matter how scary that feels
If you’re looking for ways on how to tame the monkey mind, you’re welcome to check out my monthly wellness membership ‘SAIB’ which stands for pause in Welsh. SAIB offers online Yoga classes, recipes and rituals to help busy people prioritise self-care and find those mindful moments on a daily or weekly basis -
I hope this blog post has inspired you to prioritise more mindful moments in your life and to also not depend on something else to inspire you to create them - you don’t need the perfect setting, you can begin now, right where you are!
If you live in North Wales, pop in to see me in my Yoga studio in Nantlle, it would be wonderful to see you!
Welsh / Cymraeg
Mae'n anodd dod o hyd i eiliad ystyriol yn yr hinsawdd brysur hon.
Hyd yn oed os ydych chi fel fi, yn ceisio eich gorau i gadw draw o ddefnyddio’r gair ‘prysur’ mae’n disgrifio bywyd yn berffaith, weithiau!
Symudais i Ogledd Cymru tua 8 mlynedd yn ôl a phenderfynais symud i bentref gwledig iawn o'r enw Nantlle ychydig cyn y clo cyntaf. Mae Nantlle ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac roedd yr olygfa o’r mynyddoedd a’r llyn o’r tŷ yn un o’r prif rheswm dros symud yma.
Rwy'n actor ac yn athrawes Yoga a gall fy ngwaith fod wedi'i seilio ym mhob rhan o'r byd, felly rwy'n teithio lot! Roeddwn i eisiau rhywle a fyddai’n fy annog i arafu a byw bywyd mwy ystyriol pan oeddwn adref a thros y ddwy flynedd diwethaf, mae byw yn Nantlle yn bendant wedi cynnig hynny i mi!
Heb os, bydd byw yng nghanol y wlad yn eich helpu i fyw bywyd mwy bwriadol. Bydd yn eich helpu i gofleidio byd natur a’r cyfan sydd ganddi i’w gynnig drwy’r tymhorau. Fodd bynnag, os oes un peth rydw i wedi'i ddysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, waeth ble rydych chi'n byw neu beth rydych chi'n ei wneud, mae byw'n fwy ystyriol yn dechrau gyda'n meddylfryd a'n gallu i reoli'r hyn rydyn ni'n ei alw yn Yoga yn ' y meddwl mwnci '.
Mae’r ‘meddwl mwnci’ yn disgrifio ein meddwl prysur, aflonydd, afreolus ac amhendant sy’n tueddu i redeg y sioe. Bydd ennill rhywfaint o reolaeth dros ein ‘meddwl mwnci’ yn helpu i ddod â’ch corff a’ch meddwl yn ôl i’r foment bresennol. Mae’n caniatáu ichi ganolbwyntio ar y presennol lle nad ydych chi’n bryderu am y gorffennol nac yn poeni am y dyfodol - dyma, i mi yn bersonol, yw’r foment ystyriol, y ‘mindful moment’ perffaith.
Y drafferth yw bod rheoli ein meddwl mwnci yn cymryd gwaith, ymarfer a llawer o ddisgyblaeth. Tri pheth sy’n anodd i ni fel bodau dynol. Fodd bynnag, mae pob tro werth e, a dyma mae'n rhaid i ni ei atgoffa ein hunain bob tro y mae ein ‘meddwl mwnci' yn ceisio ymyrryd, ag yn dweud wrthym ein bod yn llawer rhy flinedig, yn rhy weiren, yn rhy newynog neu wrth gwrs, y clasurol, yn rhy brysur i ymarfer rhywbeth ystyriol!
Mae'n rhaid i ni gofio hefyd, os ydym yn byw bywydau prysur, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu'r eiliadau ystyriol hyd yn oed yn fwy. Po brysuraf yw ein bywydau, y lleiaf o amser sydd gennym i fod yn sâl, i deimlo'n bryderus neu o dan straen.
Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd o ddofi’r meddwl mwnci, mae croeso i chi edrych ar fy aelodaeth llesiant misol ‘SAIB’. Mae SAIB yn cynnig dosbarthiadau Ioga, ryseitiau a defodau ar-lein yn Gymraeg i helpu pobl brysur i flaenoriaethu hunanofal a dod o hyd i'r eiliadau ystyriol yma yn fwy aml - www.saib.yoga
Rwy'n gobeithio bod y blog yma wedi'ch ysbrydoli i flaenoriaethu eiliadau mwy ystyriol yn eich bywyd a hefyd i beidio â dibynnu ar rywbeth arall i'ch ysbrydoli i'w creu - nid oes angen y lleoliad perffaith arnoch chi, gallwch chi ddechrau nawr, lle rydych chi!
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Cymru, galwch draw i'm gweld yn fy stiwdio Yoga yn Nantlle, fase’n gwych eich gweld!
Comments